OlwenRICHARDSDymuna teulu'r ddiweddar Olwen Richards ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch i Mrs Ann Hughes a staff Cartref Rhos, Malltraeth, am y gofal diflino a dderbyniodd Olwen yno. Diolch i'r Parchedig Christopher Prew am ei wasanaeth ar ddydd yr angladd ac yn arbennig am ei deyrnged gynnes i Olwen. Diolch hefyd i Mrs Kathryn Robyns am gyfeilio yn yr oedfa yng Nghapel Cana, Rhostrehwfa ac i Arwyn Hughes, Marian-Glas am ei drefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates